Mae gennym lle cyfyngedig wedi ei ddarparu ar gyfer deiliaid angorfeydd sydd am gadw eu cwch allan o'r dŵr, i'w amddiffyn rhag yr elfennau neu i wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol. Mae gan yr ardal bwyntiau pŵer. Fodd bynnag, cofiwch fod y gofod hwn yn cael ei ddyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Gellir llogi crudiau os oes angen. Codir tâl am drydan ar y tir fesul dydd ond mae defnydd achlysurol o offer pŵer yn rhad ac am ddim.