Llefydd I Ymweld

Pwllheli

Gall tref farchnad brysur Pwllheli gynnig yr holl wasanaethau a siopau sydd eu hangen i'r hwylwyr, yn ogystal â chyfleusterau llawn iard gychod. Cynhelir marchnad y dref ar ddydd Mercher ac mae'r siopau'n cau'n gynnar ar ddydd Iau. Mae rhwydwaith da o ffyrdd yn gwasanaethu'r dref a cheir gorsaf reilffordd yno hefyd. Ceir sinema yn y dref a chanolfan chwaraeon a hamdden ragorol.

pwllheli_town_map

Penrhyn Llŷn

Ceir hafan hyfryd i hwylwyr ym Mhenrhyn Llŷn - baeau diderfyn gyda thywod, clogwyni ysgythrog a chilfachau cudd. Ceir digon o gyfle hefyd i chwarae golff a thennis,
marchogaeth, pysgota a cherdded.

Yn Abersoch ceir milltiroedd o draethau tywod gwych ac amodau delfrydol ar gyfer hwylio ac mae llawer o bobl yn meddwl am y fan fel Rifiera Cymru. Mae'r dref lan môr draddodiadol hon yn llawn swyn a phleser yw ymweld â hi.

Ymhellach ar hyd yr arfordir yng Nghricieth mae castell gwych Llywelyn Fawr o'r drydedd ganrif ar ddeg. Ym mhentref Llanystumdwy ger Cricieth ceir amgueddfa hynod ddiddorol a thaith ganfod yn olrhain bywyd Lloyd George, un o'r areithwyr a'r gwladweinwyr mwyaf a gafodd Prydain erioed.

Ym Mhorthmadog, mae'r Cob yn ffurfio harbwr hwylio deniadol. Tan yn gynharach yn y ganrif hon, bu'r dref yn borthladd llongau prysur ar gyfer y fasnach lechi, gyda'r llechi'n cael eu cludo o Flaenau Ffestiniog ar lein fach Ffestiniog, sydd bellach yn atyniad pwysig i dwristiaid. Adroddir hanes morwrol yr ardal yn awr mewn amgueddfa yn hen warws llechi'r porthladd.

Ger Porthmadog, mae traeth braf Morfa Bychan, a phentrefi deniadol Borth y Gest a Thremadog, pentref genedigol T.E. Lawrence, a ddaeth yn enwog fel Lawrence o Arabia.


Eifionydd a Mynyddoedd Eryri

Mae ardal hardd Eifionydd a’i dyffrynnoedd ir, ei llynnoedd cudd a’i mynyddoedd creigiog uchel. Beddgelert yw’r adwy i Eryri, ac mae’n ganolfan i ddringwyr ac i ymwelwyr sy’n dymuno troedio’r llwybrau i gopa’r Wyddfa, Moel Hebog, Y Moelwyn a’r Cnicht. Ym Meddgelert, mae Afon Glaslyn ac Afon Colwyn yn uno i lifo drwy Aberglaslyn gyda’i olygfeydd ysblennydd. Ceir cyfoeth o ddyddodion mwynol yn llynnoedd a chreigiau rhewlifol yr ardal ac mae’n bosibl ymweld â Gwaith Copr Fictoraidd Sygun.

Address

Hafan Pwllheli
Glan Don
Pwllheli
Gwynedd
LL53 5YT


Get in touch

  01758 701219

  VHF Ch80

 hafanpwllheli@gwynedd.llyw.cymru


Cyngor Gwynedd Logo

Hafan Pwllheli is owned by
Cyngor Gwynedd

© Copyright 2025 Hafan Pwllheli