Hafan > Defnyddiol > Mordwyaeth

Mordwyaeth


Hysbysiad Lleol i Forwyr

01/02/2026
Synhwyrydd Tonnau acwstig a Cherrynt (AWAC) â bwi marcio arbennig 52° 53.293’ N, 4° 22.679’ W wedi'u hadfer.
Hysbysiad Lleol i Forwyr: Synhwyrydd Tonnau acwstig a Cherrynt (AWAC) â bwi marcio arbennig 52° 53.293’ N, 4° 22.679’ W wedi'u hadfer.

13/12/25
Bwi (buoy) Sianel 52⁰ 53’.029N - 004⁰ 22’.896W nawr yn weithredol.
Hysbysiad Lleol i Forwyr: Bwi Sianel 52⁰ 53’.029N - 004⁰ 22’.896W nawr yn weithredol. (PDF)

 

03/12/25
Bwi Sianel 52⁰ 53’.029N - 004⁰ 22’.896W wedi’i ddiffodd dros dro.
Hysbysiad Lleol i Forwyr: Bwi Sianel 52⁰ 53’.029N - 004⁰ 22’.896W wedi’i ddiffodd dros dro. (PDF)

 

01/12/25
Dylid defnyddio synhwyrydd (sensor) Tonnau a Cherrynt Acwstig (AWAC) wythnos yn dechrau 1 Rhagfyr 2025.
Hysbysiad Lleol i Forwyr: Dylid defnyddio synhwyrydd (sensor) Tonnau a Cherrynt Acwstig (AWAC) wythnos yn dechrau 1 Rhagfyr 2025 (PDF)

 

02/07/25
Ras ‘Celtic Longboat Dash’ Porthmadog i Bwllheli – 26 Gorffennaf 2025.
Hysbysiad Lleol i Forwyr: Ras ‘Celtic Longboat Dash’ Porthmadog i Bwllheli – 26 Gorffennaf 2025. (PDF)

 

28/05/25
Arolwg Cyfoeth Naturiol Cymru yn yr harbwr mewnol ac allanol 4, 5 a 6 Mehefin.
Hysbysiad Lleol i Forwyr: Arolwg Cyfoeth Naturiol Cymru yn yr harbwr mewnol ac allanol 4, 5 a 6 Mehefin. (PDF)

 

24/03/25
Gweithrediad deifio er mwyn cynnal arolwg rheolaidd o golofnau 25/03/25 hyd at 31/03/25.
Hysbysiad Lleol i Forwyr: Gweithrediad deifio er mwyn cynnal arolwg rheolaidd o golofnau 25/03/25 hyd at 31/03/25. (PDF)

 

07/02/25
Gwaith llusgrwydo (dredging) mynediad sianel harbwr Pwllheli 10/02/25 hyd at 28/02/25.
Hysbysiad Lleol i Forwyr: Gwaith llusgrwydo mynediad sianel harbwr Pwllheli 10/02/25 to 28/02/25. (PDF)

 

27/01/25
Harbwr Porthmadog. Nid yw’r cymorth i lywio Rhif 11 ar yr orsaf.
Hysbysiad Lleol i Forwyr: Harbwr Porthmadog. Nid yw’r cymorth i lywio Rhif 11 ar yr orsaf. (PDF)

05/09/24
Gwaith llusgrwydo yn sianel yr harbwr, marina a phorthladd Plas Heli 30/09/24 hyd at 30/10/24.
Hysbysiad Lleol i Forwyr: Gwaith llusgrwydo yn sianel yr harbwr, marina a phorthladd Plas Heli 30/09/24 hyd at 30/10/24. (PDF)

 

18/07/24
Samplu cipolwg (grab sampling) Bae Tremadog o long Pedryn 18/07/24 hyd at 31/08/24.
Hysbysiad Lleol i Forwyr: Samplu cipolwg (grab sampling) Bae Tremadog o long Pedryn 18/07/24 hyd at 31/08/24. (PDF)

 

18/06/24
Samplu gwaddod Bae Tremadog o long Severn Guardian 18/07/24 hyd at 31/08/24 01/07/24 to 16/07/24.
Hysbysiad Lleol i Forwyr: Samplu gwaddod Bae Tremadog o long Severn Guardian 18/07/24 hyd at 31/08/24 01/07/24 to 16/07/24. (PDF)

 

09/05/24
Samplu gwaddod Bae Tremadog o long Severn Guardian 03/05/24 hyd at 20/05/24.
Hysbysiad Lleol i Forwyr: Samplu gwaddod Bae Tremadog o long Severn Guardian 03/05/24 hyd at 20/05/24. (PDF)

 

19/03/24
Bwi Sianel yn ôl ar yr orsaf
Hysbysiad Lleol i Forwyr: Bwi Sianel yn ôl ar yr orsaf  (PDF)

 

12/03/24
Bwi sianel wedi’i ddiffodd dros dro.
Hysbysiad Lleol i Forwyr: Bwi sianel wedi’i ddiffodd dros dro. (PDF)

 

04/03/24
Mynediad i’r harbwr llusgrwydo8-15 Mawrth 2024.
Hysbysiad Lleol i Forwyr: Mynediad i’r harbwr llusgrwydo 8-15 Mawrth 2024. (PDF)

 

17/01/24
Llusern ar Gymorth i Lywio Rhif 3 yn ôl ar yr orsaf.
Hysbysiad Lleol i Forwyr: Llusern ar Gymorth i Lywio Rhif 3 yn ôl ar yr orsaf. (PDF)

 

11/01/24
Llusern ar Gymorth i Lywio Rhif 3 wedi’i diffodd dros dro.
Hysbysiad Lleol i Forwyr: Llusern ar Gymorth i Lywio Rhif 3 wedi’i diffodd dros dro. (PDF)


Ydych chi'n gadael neu'n dod mewn i'r DU ar gwch hamdden?

Mae Llu Ffiniau'r DU  wedi newid y drefn ar gyfer 'Rhoi Gwybod am Gychod Hamdden'. Os ydych yn gadael neu'n dod mewn i'r DU ar gwch hamdden o unrhyw fath, mae'n rhaid i chi gyflwyno adroddiad cwch hamdden. Ewch i spcr.homeoffice.gov.uk a llenwi’r ffurflen ddigidol syml hyd at 24 awr cyn i chi adael.

poster gwybodaeth hold fast

Hafan Pwllheli – Dynesu at yr Harbwr

O Fwi Sianel Iso.2s (52° 53.092' N, 04° 22.896' W) llywiwch 294° T ar gyfer mynedfa’r harbwr, sydd wedi’i farcio â goleufeydd (beacons) Q.G. a Q.R. Mae Mesurydd Llanw cyntaf yr harbwr wedi’i leoli ar farc ochr dde (Starboard) Rhif 3. Yna, mae’r sianel wedi’i marcio fel a ganlyn:
Goleufa sefydlog (fixed pile beacon) FLG 2.5s a bwi FLR 2.5s wedi’i ddilyn â goleufa sefydlog FLG 5s a bwi FLR 5s. Goleufa sefydlog FLG 7.5s a bwi FLR 7.5s wedi’i ddilyn â goleufa sefydlog FLG 10s a bwi FLR 10s. Bwi FLG 12.5s (dros ffordd i’r angorfeydd ‘trot pile’) a bwi FLG 15s (ail Fesurydd Llanw’r harbwr). Yna, mae ochr porthladd y sianel dros ffordd i’r marina wedi’i farcio â goleufa FLR 12.5s wedi’i ddilyn â goleufa coch heb olau. Mae pontwns y marina wedi’u nodi â 2 FG (fertigol) yn 52° 53.070'N, 04° 24.390' W ac 2 FG (fertigol) yn 52° 53.140'N, 04° 24.470' W.

Gweld Siart Goleuadau Llywio Harbwr Pwllheli


Siartiau a Pheilotiaid

Y Siartiau Morol perthnasol ar gyfer Gogledd Bae Ceredigion yw Gogledd Bae Ceredigion 1971, Marina Pwllheli a'r Dynesiadau 1512, Siart Imray 61. Mae copïau o wahanol lyfrau peilot ar gael, yn y dderbynfa, at ddibenion cyfeiriadol. Bydd staff y marina hefyd yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau neu eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun sydd â gwybodaeth leol dda am yr ardal.

Chart 1971


Y dynesiad mewn lluniau

  • cychod yn y dŵr gyda saeth yn pwyntio at fynedfa'r sianel
  • saeth yn dangos ble dylai'r cychod fod yn y dŵr
  • y môr gyda chychod ar ddiwrnod braf
  • saeth yn dangos ble ar y dŵr i fod
  • bwiau can gwyrdd yn y môr
  • cychod a saeth yn dangos mesurydd llanw'r harbwr
  • llun o'r pontynau yn y marina
  • cychod yn y môr gyda saeth wrth ei ymyl i roi arweiniad

Ardal Beryglus Maes Tanio’r Weinyddiaeth Amddiffyn – Bae Ceredigion

Mae Maes Tanio profi a gwerthuso milwrol y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Aberporth yn cynnwys Ardal Beryglus yn y Môr sy’n gorchuddio rhan fawr o Fae Ceredigion. Felly, cyn cychwyn ar unrhyw daith i mewn i’r Bae, rydym yn eich cynghori’n gryf i ymgyfarwyddo â’r ardal beryglus. Mae rhagor o fanylion i’w gweld ar wefan Qinetiq


Gwybodaeth ychwanegol

Yr Harbwrfeistr
Mae swyddfa’r Harbwrfeistr wedi’i lleol yn nerbynfa’r Hafan.

Rhagolygon y Tywydd
Mae gorsaf dywydd fach wedi'i lleoli yng nghyntedd ein prif fynediad, a dangosir y map Weather2 a’r rhagolygon dyddiol. Mae’n cael ei ddiweddaru bob bore. Mae mwy o wybodaeth ar ein tudalen dywydd gan gynnwys ffrwd tywydd byw.

Gwylwyr y Glannau EF
Mae’r ganolfan achub forol wedi’i lleoli yng Nghaergybi. Rhif ffôn (01407) 762051.  Maent yn cynnal gwylfa VHF parhaus ar Sianel 16, Sianel weithio 84.

Tollau EF
Dylai llongau sydd angen gwasanaethau Tollau ffonio 0845 723 1110.