Gall y rheiny sy’n angori gyda ni ac ymwelwyr ddewis o blith sawl busnes lleol gyda dewis eang o siopau gêr môr, broceriaid, peirianwyr, rigwyr a chanolfan hyfforddi'r Gymdeithas Hwylio Frenhinol (RYA). Dros ffordd i’r marina mae Plas Heli, yr Academi Hwylio a Chanolfan Ddigwyddiadau Cenedlaethol.