Mae Hafan Pwllheli yn cynnig mynediad at rai o ddyfroedd hwylio gorau’r Deyrnas Unedig gan gynnwys Bae Ceredigion, Ynys Môn a phorthladdoedd deniadol arfordir dwyrain Iwerddon. Mae Cei Newydd, Aberdyfi, Bermo, Porthmadog, Ynysoedd Tudwal a Phorthdinllaen oll yn agos ac yn hawdd os ydych chi’n hwylio am y dydd neu’r penwythnos. Rydym wedi tynnu sylw at ambell i gyrchfan mordeithio isod. Mae cymuned hwylio egnïol yng Ngogledd Bae Ceredigion hefyd. Mae clybiau'r ardal yn cynnal rhaglen lawn o rasio a mordeithio.
Clwb Hwylio Pwllheli yw’r clwb lleol, lle cyfeillgar a theuluol sy'n cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau. Mae adran rasio'r clwb yn trefnu rasys o dan IRC yn ogystal ag ar gyfer Cychod Chwaraeon a dosbarth heb Sbinacr. Mae hefyd yn cymryd rhan yn y rasys ISORA i Iwerddon ac mae adran mordeithio’r clwb yn trefnu teithiau lleol. Cynhelir rasys crwser o dan handicap P.Y. bob penwythnos a regatas o fewn y clwb. Mae’r clwb yn datblygu hyfforddiant ar gyfer hwylwyr ifanc gan ddefnyddio dingis Optimist, Topper a Wayfarer. Yn ogystal, mae gan y clwb raglen fywiog o ddigwyddiadau cymdeithasol drwy gydol y flwyddyn. Mae croeso i hwylwyr sy'n ymweld â Phwllheli ddefnyddio cyfleusterau'r clwb ac mae croeso cynnes bob amser i aelodau newydd.
Ffôn (01758) 614442.
Clwb Hwylio South Caernarvonshire, Abersoch
(01758) 712338
Clwb Hwylio Madoc, Porthmadog
(01766) 512976 VHF 37 & M2
Clwb Hwylio Aberdyfi
(01654) 767607
Clwb Hwylio Bermo
(01341) 28000
Mae’r cildraeth tlws ym Mhorthdinllaen yn gyrchfan ddelfrydol ar gyfer mordaith penwythnos mewn tywydd sefydlog, cyn belled â nad yw’r gwynt yn chwythu o’r Gogledd Ddwyrain. Mae ambell angorfa ym mhen y cildraeth, er mae’r rhain fel arfer yn brysur. Fel arall, gallwch angori ychydig yn bellach allan yn y bae. Ar y tir, mae traeth gwych a thafarn gwerth chweil.
Mae tref brysur Porthmadog o fewn pellter cyfforddus i’r hwyliwr penwythnos sy’n chwilio am angorfa dros nos. Mae’r harbwr wedi’i gysgodi’n dda ac mae digon i’w weld ar y lan.
Gall y dref ddarparu ar gyfer popeth. Gallwch angori ar hyd sianel y cei neu yng nghanol y dŵr. Gall fod yn bosib angori yn yr harbwr mewnol. Yn y fynedfa i’r sianel, mae bar sy’n golygu y gall fod yn amhosib cael mynediad pan fo gwynt cryf ar y tir yn chwythu dros y llif.
Cysylltwch â Harbwrfeistr Porthmadog ar (01766) 512927.
Gellir dadlau bod Bermo, ar arfordir gorllewinol Gogledd Cymru, rhwng y mynyddoedd a'r môr ar aber Afon Mawddach, yn un o leoliadau mwyaf prydferth Cymru. Mae'r dref wedi’i lleoli o fewn cornel de-orllewinol Parc Cenedlaethol Eryri ac yn gyfoeth o hanes, gyda chysylltiadau i'r diwydiannau llongau a llechi. Mae'r hen dref werth ei gweld gyda'i grisiau serth a'i bythynnod to llechi brith draphlith ar ochr y mynydd. Yn yr harbwr hynod, gallwch groesi’r afon dros Bont drawiadol Bermo wrth fynd am dro braf gyda’r hwyr.
Cysylltwch â Harbwrfeistr Bermo ar (01341) 280671.
Pentref harbwr bach prysur o fewn Parc Cenedlaethol Eryri yw Aberdyfi, lle mae afon Dyfi yn cwrdd â dyfroedd gleision Bae Ceredigion.
Gallwch ddewis o blith llu o chwaraeon dwr yn Aberdyfi - hwylio, hwylfyrddio, rhwyfo, canŵio, pysgota a mordeithiau. Yn yr haf, mae regatas hwylio, cystadlaethau hwylfyrddio, regatas rhwyfo a digwyddiadau chwaraeon dŵr eraill, ynghyd ag adloniant i’r teulu cyfan ar y traethau godidog.
Cysylltwch â Harbwrfeistr Aberdyfi ar (01654 767626).