Hafan > Defnyddiol > Diogelwch

Diogelwch


Ymarfer tân

Caiff y pwyntiau larwm tân ar y pontwns eu gwirio pob mis. Yn ystod y weithdrefn hon, mae’r larwm yn canu am 5 eiliad. Mewn argyfwng, mae’r larwm yn canu yn barhaus.
 

Os bydd tân 

  1. Seiniwch y larwm trwy bwyso’r botwm larwm ar un o’r polion tân coch sydd wedi’u lleoli ar lwybr y prif bontŵn.
  2. Cliriwch yr ardal o bobl.
  3. Ffoniwch 999.
  4. Dim ond os yw’n ddiogel i wneud hynny y dylech geisio mynd i’r afael â’r tân, gyda’r diffoddwyr a ddarperir yn y cypyrddau brys.
  5. Symudwch i bellter diogel yn groes i’r gwynt (PEIDIWCH Â RHEDEG).
  6. Peidiwch â rhwystro’r bont – bydd angen mynediad clir ar wasanaethau brys.
  7. Dilynwch gyfarwyddiadau staff y marina.
  8. Peidiwch â dychwelyd i’ch cwch hyd nes y bydd neges i ddweud ei bod yn ddiogel i wneud hynny.

Os bydd tân yn y marina

  1. Ewch ati i wacau’r pontwns yn syth a symud i’r man ymgynnull tân. PEIDIWCH Â RHEDEG.
  2. Peidiwch â rhwystro’r bont.
  3. Dilynwch gyfarwyddiadau staff y marina