Rydym yn falch o gyhoeddi bod ein pontŵn pysgota masnachol newydd sbon wedi’i osod yn llwyddiannus, a hynny diolch i arian grant Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi ein sectorau morol, pysgodfeydd a dyframaeth yng Nghymru.
Mae'r pontŵn newydd wedi'i ddylunio'n benodol ar gyfer anghenion pysgotwyr masnachol. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i sicrhau bod ein harbwr yn parhau i fodloni anghenion ymarferol y cychod pysgota, tra hefyd yn cynnal gweithrediadau diogel ac effeithlon.
Cynhaliwyd y prosiect trwy gyllid grant Llywodraeth Cymru ar gyfer meithrin twf cynaliadwy, cefnogi cymunedau arfordirol a gwella gwydnwch ac effeithlonrwydd y sector. Trwy wella mynediad at seilwaith modern, bydd y pontŵn newydd yn helpu pysgotwyr lleol i weithredu'n fwy effeithlon a diogel, a hefyd yn cefnogi hyfywedd hirdymor y diwydiant.
Cwblhawyd y gwaith gosod yn dilyn cynllunio gofalus i gyfyngu ar unrhyw amhariadau ar ddefnyddwyr yr harbwr ac i sicrhau bod y strwythur yn bodloni gofynion gweithredol y cychod masnachol. Mae'r pontŵn bellach yn gweithio’n llawn ac ar gael at ddefnydd y cychod pysgota masnachol.
Mae’r seilwaith newydd hwn yn disodli’r pontynau hen iawn a oedd gennym gynt, a oedd wedi’u haddasu o leoedd eraill ac erioed wedi'u hadeiladu'n benodol ar gyfer pysgota. Mae'r prosiect hwn yn gam pwysig ymlaen yn y cynllun i gynnal harbwr sy'n gweithio i'r gymuned bysgota. Hoffem ddiolch i bawb a gyfrannodd at sicrhau'r cyllid, cynllunio'r prosiect, a gosod y pontŵn.
Edrychwn ymlaen at weld y pontŵn yn cael ei ddefnyddio ac at barhau i fuddsoddi mewn seilwaith sy’n cefnogi ein harbwr prysur a phob bywoliaeth mae’n ei gynnal.